| Y LLYTHYR
Mae'r bensel yn segur a'r papur yn lân
A llawer i ddalen yn lwch ar y tân.
Rwyf eisiau ers troeon anfon llythyr i ti
Ond dewis y geiriau sy'n anodd i mi.
Rwy'n gwybod yn union beth sydd rhaid ei ddweud
Ei roddi ar bapur sy'n anodd iw wneud,
Fel " Rwyf yn dy garu, a geri di fi ?
Mae fy nghalon yn eiddo yn unig i ti "
Cytgan
O bensel fach wirion
Rho gymorth im co
I anfon fy nghalon
Mewn llythyr iddo fo.
Rwyt ti im yn arwr a ti yw fy myd
Pob breuddwyd freuddwydiaf, rwyt ynddynt i gyd.
O bell rwy'n dy garu ond rhy swil i ddweud
Rwy'n 'sgwennu fy llythyr beth arall sy' wneud ?
Mae cnoc ar y drws, daeth llythyr imi.
A gwn ar y sgrifen, fe ddaeth gennyt ti.
Ei agor yn frysiog mae hynny yn well
A darllen fod tithau'n fy ngharu o bell.
Cytgan.
A. Dafydd Thomas C. Arthur Owen
© Cyhoeddiadau Sain |
MADDEUWN Y CYFAN I TI
Ti'n meddwl bo fi ddim wedi gweld disgleirdeb dy lygaid
Ti'n gwrthod siarad am feichiau'r byd sy'n dy boeni
Ti'n f'anwybyddu fel petawn i ddim yn bodoli
Ti'n fy mrifo ond maddeuwn y cyfan i ti.
Beth ddigwyddodd i ni
Ti'n fy nhrin i fel bâw
Petaet ti ond yn siarad
Ac estyn dy lâw
Gwrandawn ar dy gri
Rhoddais y cyfan i ti
Ti'n fy mrifo ir byw
Ond maddeuwn y cyfan i ti.
Ti'n meddwl bo fi ddim wedi dy weld yn syllu
Pwy sy'n denu dy sylw y dyddiau hyn ?
Disgwyliaf amdanat yng nghefn trymedd nôs
Ti'n fy mrifo ond maddeuwn y cyfan i ti.
Rhaid imi wynebu'r ffeithiau a pheidio celu rhagor
Does dim dyfodol i mi ynfan hyn
Ti'n chwalu fy myd a fy mreuddwydion
Ti'n fy mrifo ond maddeuwn y cyfan i ti.
Fe rown y cyfan petaet ti ond yn deallt
Dos at dy wynfyd ym mhellafoedd byd.
Fe ddaw y cymylau dros ddisgleirdeb yr haul
Ti'n fy mrifo ond maddeuwn y cyfan i ti.
A. Sioned Mair C. Arthur Owen
© Cyhoeddiadau Sain |
| MOEL TRYFAN
O gopa Moel Tryfan ar ddiowrnod clir
Mi welwch Iwerddon a llawer o dir
Yno ers canrifoedd yn edrych i lawr
Mae creigiau'r Foel neu Barclod Y Cawr.
Ym Moel Tryfan mae'r domen lefel
Heddiw nid yw ond hên rwbel
Olion cyn a morthwyl creithiau 'r gweithwyr
Heddiw ond atgofion or chwarelwyr.
Cytgan
Cawsom grwydro i ble a minnom
Cefais godi dwr o'i ffynnon
Dyna braf oedd troedio'r foel
Heddiw nid oes llwybr na fy hoel
Mi es yn ol i grwydro'r Foel
I chwilio am y ffynnon a fy hoel
Roedd yn freuddwyd eisiau ei gyflawni
Cael unwaith eto godi dwr o honi.
Cofio'r Foel fel awyr iach
Llle y treuliais pan yn fach
Cerddrd y llwbyr ir ffynnon glir
Heddiw nid yw ond brwyni hir
Cytgan
A. Gwenllian Roberts C. Arthur Owen
© Cyhoeddiadau Sain |
CARU DY GARU DI
Caraf weld yr haul dros fryn yn machlud
A caraf weled gwylan ar y lli.
Rwy'n caru clywed chwerthin hapus plentyn
Ond yn fwy na rhain i gyd
Caraf dy garu di.
Caraf glywed lleisiau llon yn canu
A caraf fynd am dro myfi ar ci.
Rwy'n caru cwmni ffrindiau ar adegau
Ond yn fwy na rhain i gyd
Caraf dy garu di.
Caraf gerdded drwy yr eira trwchus
A caraf fynd am wyliau a chael sbri
Rwyn caru hefyd persawr melys rhosyn
Ond yn fwy na rhain i gyd
Caraf dy garu di.
Caraf gofio cariad mwyn rhieni
A caraf yr atgofion ddaw i mi
Rwy'n caru myned weithiau ir gorffennol
Ond yn fwy na rhain i gyd
Caraf dy garu di.
A. Dafydd Thomas C. Arthur Owen
© Cyhoeddiadau Sain |
| TYBED
Edrych i'th lygaid di
A gweld y cyfan fu rhyngddom ni
Oes gobaith eto i ni
Wedi'r hyn a fu.
Cytgan ( 1 )
Ti yw'r un a garaf
Ti yw'r un ddymunaf
Ti yw'r un a welaf
Yn fy mreuddwyd i.
Aeth bywyd heibio'n do ?
Teimladau cymysg lawer gwaith
Ymlaen yr aethom ni
Er anodd oedd y daith.
Cytgan ( 2 )
Os oes modd cyfeirio
Dy deimladau heno
Gwyddost byddaf yno
I dy garu i.
A fedrwn droi eto'n ol
Yn ol fel cynt y bu
Neu ydym ni 'di mynd rhy bell
Ar daith ein bywyd ni .
Cytgan
A. Nanw Roberts C. Arthur Owen.
© Cyhoeddiadau Sain |
PARTI PENBLWYDD IESU
Mae seren Nadolig
Mor olau yn y nen
Gwell ini ddechrau dathlu
A pharti mawr dros ben
Rhown dinsel ar y goeden
A chlychau ym mhob lle
Mae rhywbeth mawr iw gofio
Penblwydd Tywysog Ne'.
Cytgan
A chanu wnawn ein cân yn nawr
Iesu ddaeth ir byd
Fe'i ganwyd ef ym Methlem dref
Yn frenin yr holl fyd.
Mae'r sannau wrth y gwely
Ar holl anrhegion drud
I gyd yn dweud fod Iesu Grist
Yn ffrind i blant y byd.
Anrhegion gawn o sâch Sion Corn
Ar teulu yn gytun
Gwnawn barti penblwydd Iesu Grist
Y parti goreu un.
Cytgan.
A. Nanw Roberts C. Arthur Owen.
© Cyhoeddiadau Sain |
| BLE 'R WYT TI ?
Ganol dydd
Mi deimlais wres yr heulwen uwch fy mhen
Ond heno yn nhywyllwch ganol nôs
Mi deimlaf fod y byd i gyd ar ben.
Ben fy hun
A thithu'n mhell i ffwrdd om breichiau i
Ac ofn yfory'n llethu 'nghalon drist
Pe byddwn ond yn gwybod ble rwy't ti.
Cytgan.
Na. dydw i ddim eisiau dim byd mwy
Na chlywed swn dy lais neu wybod ble
Yr wyt yn gwybod os wyt eisisu dod
yn ol i 'mreichiau eto ynteu be?
Wyt ti ofn
Y tân fu gynt yn cynnau'n cariad ni ?
Pa beth sy'n pery iti gadw draw
A chadw nghalon innau gydas thi.
Beth sy'n bod
Na fedri di ddod adre ata i ?
Neu ddweud yn iawn pa le 'rwyt wedi mynd
Ni wn pa le i chwilio ble rwyt ti.
Cytgan.
A. Nanw Roberts C. Arthur Owen.
© Cyhoeddiadau Sain |
DIM MYMRYN YN FWY
Rwyf yn amau ers stalwm ond nid rwyf yn siwr
Beth yw maint dy serch ata fi.
Mae 'na rhywbeth oi lê, ond ni wyddaf be
Ond mae 'na rhywbeth oi lê arna ti.
Pam nad ydwyt mor siriol ac yr oeddyt or blaen
Oes 'na gariad newydd gen ti ?
Dy dymer sy'n boeth paid a dweud celwydd noeth
Rwy'n rhy ddoeth gallaf weld drwyddo ti.
Cytgan
Rwy't yma mewn penbleth
Rhaid dewis rhwng dwy
Ni all neb dy garu
Ddim mymryn yn fwy.
Nid hawdd yw rhesymu pan mae pethau fel hyn
Pan nad oes bron gair rhyngddom ni
Bywyd oedd berffaith sydd nawr heb ddim gobaith
Ceisiais fy ngoreu nawr mae fyny i ti.
Os oes angen ffarwelio rhaid it ddweud yn awr
Bydd y boen yn hawddach i ti.
Dwed wrthyf y gwir gyda chydwybod clir
Cyn bo hir fe fydd yn amlwg i mi.
Cytgan.
A. Dafydd Thomas C. Arthur Owen
© Cyhoeddiadau Sain |
| CANRIF
Atgofion canrif ddaw im meddwl heddiw
Cannoedd o atgofion cymysg byw
Yn dod a gwên ac ambell ddeigryn gloyw
Wrth gofio'r plant sydd nawr ym mreichiau Duw.
Canrif hir a chaled aeth heibio'n chwim
Ond er pob dim cedwais i fy ffydd
Wyrion a wyresau syydd yn gysur im
Nawr iddynt hwy rwy'n byw o ddydd i ddydd.
Cytgan.
Cyfarchion y frenhines
Ddaeth gyda'r cardiau drwy y drws.
Ar stafell wedi 'i boddi
Mewn tlysau blodau tlws.
Ar teulu oll a ffrindiau
Yn dathlu gyda mi
Fy mhenblwydd heddiw'n ganrif oed
Mor ffodus ydwyf fi.
Gall bywyd fod yn greulon ar adegau
A phwysau ffawd yn ein gwasgu ni
Ond dim gwahaniaeth pa mor serth yw'r rhiwiau
Eu dringo rhaid i bawb fel y gwnes i.
A. Dafydd Thomas C. Arthur Owen
© Cyhoeddiadau Sain |
Y LLYGAID DUON DUON
Mae'r golau wedi 'i droi i lawr
A tithau'n edrych arnai ' nawr.
A llygaid duon disglair
O mor dlws
'Rwy'n ofni edrych arnat ti
Ofn iti ddwyn fy nghalon i
Mi wn na fedrwn byth dy wrthod
Byth dy wrthod di.
Cytgan.
Y llygaid duon duon
Y rhai all dorri calon
Yn syllu tuag ataf o hyd ac o hyd.
Y llygaid duon duon
Sy'n ceisio dwyn fy nghalon
Y llygaid mwyaf prydferth yn y byd
Y llygaid mwyaf prydferth yn y byd,
'Rwyf eisiau dod i'th ymyl di
A gwybod mwy amdanat ti.
A gwybod beth yw'r stori sy'n
Dy lygaid duon di.
Breuddwydio wnes fod un fel ti
Un dydd yn cipio nghalon i.
A heno daeth y freuddwyd hon
Yn freuddwyd gwir i mi .
Cytgan.
A. Nanw Roberts C. Arthur Owen.
© Cyhoeddiadau Sain |
| DYFFRYN DYCHYMYG
Cysgod cwmwl ar y mynydd
Llynnoedd arian tawel llonydd
Blodau'r grug yn ei ysblennydd
Yn nyffryn fy nychymyg i.
Euraidd eithin ar y llwyni
Cân aderyn im yn gwmni
Ar bont fechan rhaid ei chroesi
Yn nyffryn fy nychymyg i.
Cytgan
Yma mae prydferthwch
Perffaith hêdd yn y tawelwch
Paradwys o lonyddwch
Yw dyffryn fy nychymyg i.
Mae yn lecyn go arbennig
Blâs y nefoedd mae'n ei gynnig
Ac ni fyddwch byth yn unig
Yn nyffryn fy nychymyg i.
Pan fydd llwybrau'r byd yn galed
Gelltydd serth heb oriwaered
Ceisiwch chwithau fynd i gerdded
Drwy dyffryn eich dychymyg chwi .
Cytgan.
A. Dafydd Thomas C. Arthur Owen
© Cyhoeddiadau Sain |
CANEUON CANU GWLAD
Fe grogwyd taid am dagu nain
Blynyddoedd maith yn ol
Fy mam wnaeth hitio'r botel
A fy nhad aeth ar y dole
Mae fy chwaer yn disgwyl eto
Heb run syniad pwy yw'r tâd
Ond mae'r pethau hyn yn digwydd
Mewn caneuon canu gwlad.
Mae'r ci yn sâl ar gath ar goll
Ac mae'r bwji'n colli blu.
Mae'r ffynnon wedi sychu
Ac mae twll yn nhô y ty.
A bore heddiw cefai y sac
A hynny heb eglurhad.
Ond mae'r pethau hyn yn digwydd
Mewn caneuon canu gwlad.
Cytgan
Caneuon i roi mwynhad
Yw'r caneuon canu gwlad
Er mai trist yw ambell stori
Maent rhywsuy tn ein diddori
Storiau syml yw pob un
Nid oes angen eglurhad
Hanesion am bobol cyffredin gawn
Mewn caneuon canu gwlad.
Colli cariad colli serch
Cawn hyn ym mhob un cân
Calon wedi thorri'n llwyr
Ar y llawr yn ddarnau mân
A sawl tro y clywsoch stori
Am feddwi a chwrw rhâd?
Ond y pethau hyn yw calon
Y caneuon canu gwlad.
Cytgan
A. Dafydd Thomas C. Arthur Owen
© Cyhoeddiadau Sain |