Geiriau
 


Môn-Heli
Rhown Y Byd
 
 

Tybed a Rhown y byd yn unig


Tybed

Edrych i'th lygaid di 
A gwled y cyfan fy rhyng'om ni 
Oes gobaith eto'n ni 
Wedi hyn a fu 

Ti yw'r un a garaf
Ti yw'r un ddymunaf
Ti yw'r un a welaf
Yn fy mreuddwyd i

Aeth bywyd heibio ond do 
Teimladau cymysg lawergwaith 
Ymlaen yr aethom ni 
Er anodd oedd y daith 

Os oes môdd cyfeirio 
Dy deimladau heno 
Gwyddost byddaf yno 
I dy garu di 

A fedrwn droi eto'n ol 
'Nol fel y gynt y bu 
Neu ydym ni 'di mynd rhy bell 
Ar daith ein bywyd ni 

Ti yw'r un a garaf
Ti yw'r un ddymunaf
Ti yw'r un a welaf
Yn fy mreuddwyd i
 
 
 
 
 
 
 

A.  Nanw Roberts, C. Arthur Owen 
© Nanw Roberts, Arthur Owen 

Rhown Y Byd

Gyda'r nos mor hir ac oer 
'Ben fy hun yn cynnau'r tân. 
Pa le aeth y teulu oll? 
Bu yn cynnnal aelwyd lân. 
Ond atgofion yma'n awr 
Am y cwmni gefais gynt. 
Mor ddigalon yw fy nghân 
A di bwrpasyw fy myd. 

Ond fe 'rown y byd i gyd
I dy gael di yma 'n ôl
I roi'r cyfan yn ei lê
Wedi i mi fod mor ffôl.
Dacw'r darlun ar y wal
Yn  y ffrâm ond ti a fi
Atgof am y diwrnod fu
I mi roddi fy hun i ti.

Ac fe chwalwyd yn y storm 
Cestyll adeiladom ni 
Er fod sylfaen gadarn gynt 
Cariad ein calonnau ni. 
Anodd heno gynna'r tân. 
Aelwyd oer sydd yn ein ty ni 
Er fod fflam y dyddiau fu 
Yn cynnau yn fy nghalon i 

Ond fe 'rown y byd i gyd
I dy gael di yma 'n ôl
I roi'r cyfan yn ei lê
Wedi i mi fod mor ffôl.
Dacw'r darlun ar y wal
Yn  y ffrâm ond ti a fi
Atgof am y diwrnod fu
I mi roddi fy hun i ti.
 

A.  Nanw Roberts,  C. Arthur Owen 
© Nanw Roberts, Arthur Owen 


 

Prif Dudalen