Geiriau


Môn-Heli
Fy ngalw'n ôl



 
 
Fy Ngalw'n Ôl 

Mae'r galon fach yn teimlo'r hiraeth 
Chwalodd y petalau ar rosyn ein serch. 
Dwy iaith dwy galon a wahanai'r nwyd 
Na lwyddodd i gynnau'r fflam yng nghalon merch. 

Ond ymlaen yr af ar daith fy mywyd
Nid oes pwrpas byw yn y gorffennol,
Bydd ambell i gwmwl du yn rhwystyr
Ond bydd gwyrddni'r tir yn fy ngalw'n ôl.

Anodd yw tynnu'r llen terfynol 
Llifo'n ôl mae atgofion pob awr. 
Gwywodd y cariad yn nhywyllwch y nôs 
Ac nid oedd modd wi fachlud ar doriad gwawr. 

Ond ymlaen yr af ar daith fy mywyd
Nid oes pwrpas byw yn y gorffennol,
Bydd ambell i gwmwl du yn rhwystyr
Ond bydd gwyrddni'r tir yn fy ngalw'n ôl.

Fy llygaid sy'n llenwi a dagrau chwerw 
Pam welaf di'n cerdded lawr y stryd. 
Parhau i redeg mae gwe y gannwyll 
Diffodd wnaeth y fflam a diwweddu'r hud. 

Ond ymlaen yr af ar daith fy mywyd
Nid oes pwrpas byw yn y gorffennol,
Bydd ambell i gwmwl du yn rhwystyr
Ond bydd gwyrddni'r tir yn fy ngalw'n ôl.
 
 
 
 
 
 
 
 

A.  Sioned Mair,  C. Arthur Owen 
© Cyhoeddiadau Sain.

Haf Yn Fy Nghalon 

Mae'r glaw yn arafu 
Ar fynydd a dôl. 
Y cwmwl yn chwalu 
Daeth heulwen yn ôl. 
Dim ots am yr Hydref 
Yr oerni ar lli 
Ma yn hâf yn fy nghalon 
'Rwyt ti ngharu i. 

Pibonwy fel gemau 
Iw gweld ym mhob man 
Ond mae gwên ar fy ngenau 
Daeth cariad im rhan. 
'Rwyf yn gynnes drwy'r gaeaf 
Yn dy freichiau di. 
Mae hâf yn fy nghalon 
Rwyt ti ngharu i. 

Beth yw'r ots am y gaeaf, beth yw'r ots am y glâw.
Fe gaf heulwen byth buthoedd wrth gydio'n dy lâw.
Byddaf gynnes, byddaf hapus byddaf ddedwydd a ffri.
Mae hâf yn fy nghalon rwyt ti ngharu i.

Tu allan ir ffenest 
Ar wydr y drws. 
Mae'r rhêw yn crafangu 
Mewn patrwm mor dlws. 
Ar gwynt sydd yn chwyrnu 
Yn simdde ty ni. 
Ond mae hâf yn fy nghalon 
Rwyt ti ngharu i 

Beth yw'r ots am y gaeaf, beth yw'r ots am y glâw.
Fe gaf heulwen byth buthoedd wrth gydio'n dy lâw.
Byddaf gynnes, byddaf hapus byddaf ddedwydd a ffri.
Mae hâf yn fy nghalon rwyt ti ngharu i.
 

A. Dafydd Thomas  C. Arthur Owen 
©  Cyhoeddiadau Sain 

Tawel Yw Y Nôs
 

Tawel yw'r nôs,
Llonnydd  yw'r lleuad. 
Atgofion ddâw yn ôl, 
Wrth im gau fy llygad. 
Atgofion plentyndod 
Am ddyddiau dedwydd llon. 
'Rwyf mor dawel fy meddwl 
Ar noson dawel fel hon. 

Gwelaf fy mam 
Ei gwên yn parhau. 
A draw acw fy nhâd 
O mor hapus yw'r ddau. 
Mae nhw yma o hyd 
A maen't mor fyw yn fy mron. 
Hwythau'n dawel eu meddwl 
Ar noson dawel fel hon. 
 

Ond wrth agor fy llygaid
Dâw yr hiraeth ar siom.
A throi calon oedd ysgafn
Am amrantiad yn drom.
Ond daw heddwch yn ôl.
Wrth ir hiraeth leihau
A daw gwên i fy ngwyneb
Wrth im gofio y ddau.

Tawel yw'r nôs 
I fy mhlentyn i. 
Mae cariad mam a thâd 
Yn siwr o'i gwarchod hi. 
Dedwydd fydd ei bywyd 
Gyda'i holl atgofion llon 
Hithau'n dawel ei mheddwl 
Ar noson dawel fel hon. 

Ond wrth agor fy llygaid
Dâw yr hiraeth ar siom.
A throi calon oedd ysgafn
Am amrantiad yn drom.
Ond daw heddwch yn ôl.
Wrth ir hiraeth leihau
A daw gwên i fy ngwyneb
Wrth im gofio y ddau.
 
 

A. Dafydd Thomas  C. Arthur Owen 
©  Cyhoeddiadau Sain. 

Dawnsio LLinell
 

'Roedd fy nhaid yn dawnsio'r  quick step, 
A fy nhad y rock and roll. 
Ac hoff o ddawnsio'r disco oedd fy chwaer. 
Ond i mi y dawnsio llinell 
Sydd yn ennill pob 'run tro. 
Ac nawr rwy'n erfyn arnoch chwi yn daer, 
 

Dewch i ddawnsio llinell gyda ni 
Balch y byddaf ddangos 
Y camau oll i chwi. 
Mae yn gallu lleddfu pwysedd gwaed 
A gall ddod a sbonc yn ol ir traed 
Felly dewch i ddawnsio llinell gyda ni. 

'Does nêb rhy ieuanc, nêb rhy hên, 
Rhag gwisgo pâr o jeans. 
Y dawnsio llinell sydd i unrhyw oed. 
Het gowboi gwisgwch am eich pen 
Dim gwahaniaeth beth ei maint 
A gwisgwch bâr o fwts am eich dwy droed. 

Dewch i ddawnsio llinell gyda ni 
Balch y byddaf ddangos 
Y camau oll i chwi. 
Mae yn gallu lleddfu pwysedd gwaed 
A gall ddod a sbonc yn ol ir traed 
Felly dewch i ddawnsio llinell gyda ni. 

Mae pawb yn hoffi'r canu gwlad 
 Ar holl ddawnsio llinell llon. 
'Ry'm falch o gael eich cwmni ar y llawr. 
Fe wnewch ddysgu'r ddawns yn gyflym 
A thrwy hynny gael mwynhad 
Fe fyddwch yn llawn hyder  mhen yr awr. 

Dewch i ddawnsio llinell gyda ni 
Balch y byddaf ddangos 
Y camau oll i chwi. 
Mae yn gallu lleddfu pwysedd gwaed 
A gall ddod a sbonc yn ol ir traed 
Felly dewch i ddawnsio llinell gyda ni. 
 
 
 
 
 

A   Dafydd  Thomas  C  Arthur Owen. 
© Cyhoeddiadau Sain.

Dweud Ffarwel 

Trên yn aros ar y platfform draw 
Amser i ti fynd. 
Rhaid yw dweud "Ta Ta " 
Wedi'r amser da 
Mae mor anodd ffarwelio fy ffrind. 

Ond rhaid codi fy llâw
A dymuno hwyl fawr.
A chadw'r atgofion yn fy nghalon pob awr.
Yn fy nghalon pob tro
Mor agos fyddi di
Hyd nes deu di adref
Eto yma ata i.

Chwiban olaf ddaw or platfform draw 
Tithau yn fy ngôl. 
Methu aros nawr hyd nes daw yr awr 
I ti eto ddod adref yn ôl. 

Ond rhaid codi fy llâw
A dymuno hwyl fawr.
A chadw'r atgofion yn fy nghalon pob awr.
Yn fy nghalon pob tro
Mor agos fyddi di
Hyd nes deu di adref
Eto yma ata i.

Trên yn dianc drwy y twnnel du 
Tithau ar ei bwrdd 
Yma safa ' i dweud ffarwel a thi 
Hyd nes eto cawn amser i gwrdd. 

Ond rhaid codi fy llâw
A dymuno hwyl fawr.
A chadw'r atgofion yn fy nghalon pob awr.
Yn fy nghalon pob tro
Mor agos fyddi di
Hyd nes deu di adref
Eto yma ata i.
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

A.  Nanw Roberts  C.  Arthur Owen. 
©   Nanw Roberts,  Arthur Owen. 

Canu Carioci

Cystadleuaeth carioci 
Nid oes eisiau bod yn shei. 
Dewch i fyny fesul un, 
Mae yn iawn i bawb gael trei. 
Dewisiwch gân iw chanu 
I roi pleser mawr i ni. 
Cewch wobr hael am ennill. 
Ugain punt a fifty  p. 

Canu carioci 
Yn cael ei eni yn Japan 
Ond mae'r canu carioci 
Nawr iw glywed ym mhob man. 
O  Fangor draw i Tecsas 
Tregarth ar Felin Heli 
Pawb sydd wedi dwli'n llwyr 
Efo'r canu carioci. 

Wil a John o Lanerchymedd 
Y ddau oedd wedi meddwi. 
Naill na'r llall mewn tiwn at all 
Yn trio'r carioci. 
Wil yn dweud ei fod yn sâl 
Yng nghanol " I Feel Fine " 
Dal i ganu a wnaeth John 
Yr hên gân  "Hên Ffon Fy Nain ". 

Cytgan

Rita fawr o rhywle 
Am ganu cân Madonna 
"Bownd o ennill  " medd ei mhami 
" Amhosib !  "  medd yr hogia. 
Fe glywsom bedwar Elvis P 
Rheini gyd 'di dal hi. 
Ond pob un oedd wrth eu bôdd. 
Yn canu carioci. 

Cytgan

Merch reit ddel mewn trowsus tynn 
O rhywle ger Bethesda 
Fe ganodd hi fel eos 
A hi a ddaeth yn gynta' 
Rita fawr yn lloerig iawn 
Ac wedi pwdu'n lân. 
Dweud ei bod yn well na'r ferch 
Ac mai rybish oedd ei chân. 

Cytgan

Mae'r lle yn llawn o ganu 
Ar cwrw yn llifo fel ffôs. 
A phawb yn clapio'i dwylo 
A hithau bron yn hanner nôs. 
Y bar yn cau or diwedd 
Rhaid fydd galw 'r  tacsi 
Fe gefais gyth o noson dda 
Efo'r canu carioci. 

Cytgan
 

A. Dafydd Thomas  C. Arthur Owen 
©  Cyhoeddiadau Sain.

Cwlwm
 

Dwy droed fach mewn sgidiau newydd, 
Yn ymlusgo tua'r car. 
Blwch brechdannau yn ei dwylo 
A phecyn bychan ar ei gwar. 
Dagrau'n llifo, llâw yn chwifio, 
Ar car yn gwibio 'i lawr y stryd. 
Gadael mam am y tro cyntaf 
Fe ddaeth newid mawr iw byd. 

Cyrraedd toc ger giatiau'r ysgol, 
Cydio'n dynn yn llâw ei mham. 
Gwrthod cusan, gwrthod cysur 
A gwrthod hefyd symud cam. 
Ai l  ystyried, dechrau cerdded, 
Ond caled ydoedd gollwng llâw. 
Mam yn troi gan sychu deigryn 
A cloc y dref yn taro naw. 
 

Rhaid llacio'r cwlwm fesul tipyn, 
Yn ara' deg  mae  gwneuthur hyn. 
Amhosib gweld dau ben ir llinyn 
Pa mae y cwlwm yn rhy dynn. 

Tri or gloch wrth giat yr ysgol 
Swn traed bach yn dod yn sionc. 
Breichiau mam yn cydio'n dyner 
A calon fach yn rhoddi sbonc. 
Tafod brysur, llun ar bapur, 
Ar dagrau'n segur nawr i gyd. 
Rhan or cwlwm wedi ddatod 
Drwy'r ffrindiau newydd ddaeth iw byd. 

Rhaid llacio'r cwlwm fesul tipyn, 
Yn ara' deg  mae  gwneuthur hyn. 
Amhosib gweld dau ben ir llinyn 
Pa mae y cwlwm yn rhy dynn. 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

 A DafyddThomas   C Lliwen  Griffiths 
©  Cyhoeddiadau Sain /Lliwen Griffiths 

Yr Eirlys yn Yr Eira
 

Eirlys yn yr eira 
Anweledig yw i ti, 
Fel y cariad anweledig 
Sydd yn fy mynwes i. 
Ond dadmar wna yr eira 
Yng ngwres tyner haul y dydd. 
A rhannu ei phrydferthwch 
Wna yr eirlys  fechan  gûdd. 

Cariad yn fy nghalon, 
Cyfrinachol, ond i mi. 
Y cariad cyfrinachol pur 
Rwy'n ei gelu rhagddo ti. 
Hawdd dadmar fy nheimladau 
Gyda'th gusan ar fy ngrudd. 
Yna danghosaf iti 
Prydferthwch fy nghariad cûdd. 

O mor annodd ar adegau 
Yw ceisio cuddio fy nheimladau, 
Maen't yn dod ir amlwg weithiau 
Ac heb wahoddiad ambell dro. 
Ond  wrth imi  eu gorchuddio 
Fi yw'r unig un rwy'n  dwyllo. 
Maen't or golwg, ond  yn dal yma. 
Fel yr eirlys yn yr eira. 

Mentro wnaeth yr eirlys, 
I orchfygu'r gaeaf llwm. 
Er mwyn dangos ei phrydferthwch 
Tan lwyni moel y cwm. 
Mentro fydd rhaid i minnau 
A dangos fy nghariad i. 
A rhannu ei holl harddwch 
I goncro dy galon di. 

O mor annodd ar adegau 
Yw ceisio cuddio fy nheimladau, 
Maen't yn dod ir amlwg weithiau 
Ac heb wahoddiad ambell dro. 
Ond  wrth imi  eu gorchuddio 
Fi yw'r unig un rwy'n  dwyllo. 
Maen't or golwg, ond  yn dal yma. 
Fel yr eirlys yn yr eira. 
 
 

A Dafydd Thomas  C Lliwen Griffiths 
©  Cyhoeddiadau Sain / Lliwen Griffiths. 

Yma Yn Fy Nghalon
My Heart Will Go On
(A James Horner)

Geiriau cymraeg gan Julia Prytherch 

Arranger Lliwen Griffiths 

©  EMI Publishing Ltd 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

 

Tros Fy Ysgwydd
 

Fe ddoist i fy nghyfarfod 
Un bore ar y stryd. 
Ac ers y bore hwnnw 
Fe newidiais  fy holl fyd. 
Ac yna dwedais ti "Helo " 
A daeth iâs oer drwy fy nghefn. 
A gwenu  a  wnês innau. 
Cyn cerdded 'mlaen drachefn. 

Ac yna tros fy ysgwydd 
Edrychais arna ti. 
A tithau tros dy ysgwydd 
Oedd yn edrych arna i. 
Ac wrth dy weld yn troi yn ôl. 
Fy nghalon roddodd naid. 
A gwyddwn mai dy garu di 
Oedd rhaid. 

Ac ers y diwrnod hwnnw 
Mor ddedwydd ydym ni. 
Ein baban dros dy ysgwydd 
Sydd yn gwenu arna i 
Fy myd yw'r teulu bychan 
Ac mor hapus ry'm ein tri. 
Yr holl, am i ti edrych 
Tros dy ysgwydd arna i. 

Ac yna tros fy ysgwydd 
Edrychais arna ti. 
A tithau tros dy ysgwydd 
Oedd yn edrych arna i. 
Ac wrth dy weld yn troi yn ôl. 
Fy nghalon roddodd naid. 
A gwyddwn mai dy garu di 
Oedd rhaid. 
 

A. Dafydd Thomas  C. Arthur Owen. 
©  Cyhoeddiadau Sain.

Yn Ôl I Ynys Môn 
 

Breuddwydio bydda 'i weithiau 
Am grwydro'r byd i gyd. 
Am hirddydd hâf ar draethau brâf 
Ynysoedd pen draw'r byd. 
A blasu'r gwinoedd drytaf 
Ar draethau'r Caribi 
Man hyn fan draw 
Yn mynd am bryd 
I fyd o fantasi. 

Fantasi fy mreuddwyd i
dim ond breuddwyd ffôl
Yn mynnu mynd ymhell i ffwrdd
Ond er mwyn dod yn ôl.
Fantasi fy mreuddwyd i
A hynny'n nôl pob sôn
Yn ôl ir ynys harddaf un
Yn ôl i ynys Môn.

Sangria yr ynysoedd Sbaen 
Im dennu ar y traeth. 
A dawns flamenco gyda'r nôs 
I droi fy mhen yn waeth. 
Ond er y rhamant hyn i gyd 
O weld ynysoedd pell 
Mae Ynys Môn pob tro i mi 
Yn ynys llawer gwell. 

Fantasi fy mreuddwyd i
dim ond breuddwyd ffôl
Yn mynnu mynd ymhell i ffwrdd
Ond er mwyn dod yn ôl.
Fantasi fy mreuddwyd i
A hynny'n nôl pob sôn
Yn ôl ir ynys harddaf un
Yn ôl i ynys Môn.
 

A. Nanw Roberts,  C. Arthur Owen 
©  Cyhoeddiadau Sain.

Nadolig Pob Dydd
 

Or dydd Nadolig Cyntaf erioed 
Fe ddaeth baban a cariad ir byd. 
Ar or diwrnod cyntaf y gwelais ti 
Gwnes 't fy mywyd yn Nadolig o hyd. 

'Rwyf fel plentyn ai hosan yn llawn 
O anrhegion Nadolid di -ri. 
A'r anrheg a gefais oedd cariad pûr, 
A wnaeth pob dydd yn Nadolig i mi. 

Mae pob dydd yn Nadolig 
Dioch i ti. 
Am roddi dy gariad 
Fel anrheg i mi. 
Ac fe roddais innau 
Fy nghalon i ti 
Wedi lapio yn dyner 
Yn fy holl gariad i. 

Mor werthfawr i mi yw dy anrheg 
Anrheg cariad a roddais 't mor rydd. 
Yr anrheg gorau dderbyniais erioed 
Fe wnaeth fy mywyd yn Nadolig pob dydd. 
 

Mae pob dydd yn Nadolig 
Dioch i ti. 
Am roddi dy gariad 
Fel anrheg i mi. 
Ac fe roddais innau 
Fy nghalon i ti 
Wedi lapio yn dyner 
Yn fy holl gariad i. 
 
 
 

A.  Dafydd Thomas  C. Arthur Owen 
©  Cyhoeddiadau Sain.


 

Prif Dudalen