I ddilyn, rhan o gyfweliad a wnaed gyda Karen a Sioned ychydig o fisoedd ar ôl iddynt ail ddechrau perfformio fel y Môn-Heli newydd. 
 

I Arthur a Karen o Dalwrn, Ynys Môn, mwy adnabyddus fel y deuawd priod Môn-Heli, 'roedd hâf 2006 yn gyfnod prysur iawn. Mêdd Karen, " Roedd ein dyddiadur yn llawn am fisoedd i ddôd, ac er ein bod pob amser yn edrych ymlaen at y perfformiad nesaf, roedd un yr hâf hwnnw sef Gwyl Llanilar mis Awst yn un a oeddem yn edrych ymlaen ato yn fawr iawn."

Ar ôl cyfnod o bron i chwe mlynedd o berfformio, erbyn 2006 roedd Môn-Heli  wedi cyhoeddi tair cryno ddisg, y ddwy gyntaf Rhown Y Byd  (LG CD 3) a Fy Ngalw'n Ôl ( LG CD 5) wedi ei recordio ai cynhyrchu yn Stiwdio'r Mynydd, Llanllechid. "Breuddwyd Arthur yn sicir," meddai Karen, "oedd cael cyfle i recordio albwm oi gyfansoddiadau gyda band proffesiynol mewn stiwdio. Gwireddwyd y breuddwyd hwnnw pan gawsom y cyfle gan Gwmni Sain i recordio ein trydedd albwm Y LLythyr (SCD 2474) ar label Sain. Fel y gwnaeth pethau droi allan rwyf yn fwy diolchgar i Sain nawr nac erioed am roddi y cyfle hwnnw i ni."

"Ni allai Arthur gyfansoddi geiriau, nac ychwaith gyfansoddi cerddoriaeth heb gael geiriau yn gyntaf," eglurodd Karen, "felly roeddem ein dau yn ddiolchgar iawn i Nanw Roberts, Gwenllian Roberts, Dafydd Thomas, ac i  Sioned Mair, ein merch, am ysgrifennu ar ein cyfer, hyn yn galluogi Arthur i gyfansoddi yr alawon ir deuddeg cân ar yr albwm Y Llythyr.

Daeth cyfuniad o gyhoeddi yr albwm honno, aml ddarllediad or caneuon ar y gorsafoedd radio, ymddangosiad ar y teledu, ei perfformiadau dwyieithog ar hyd a llêd Cymru,  ac hefyd ei personoliaeth cynnes, a llawer mwy o ddilynwyr newydd iddynt o bob rhan o Gymru a thu hwnt hefyd.

Yna daeth gwahoddiad gan Sain iddynt berfformio yn Theatr Gogledd Cymru, Llandudno, ar achlysur Cyngerdd blynyddol Canu Gwlad Sain. "Gwireddwyd un arall o freuddwydion Arthur y noson fythgofiadwy honno," medd Karen, "perfformio ei ganeuon gyda band ar lwyfan theatr mor adnabyddus. Roedd yn noson arbennig iawn i'r ddau ohonom er gwaethaf y ffaith bod arlliw o dristwch yn bresennol hefyd " Aeth Karen ymlaen drwy esbonio fod Arthur wedi colli ei dâd Victor Owen yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn  "Ein cefnogwr mwyaf un", ebe Karen, "a gwn petai wedi bod yn bosibl iddo fod yno ar y noson honno, mai ef fuasai y person balchaf yn yr adeilad."

Fel canlyniad ir perfformiad yma cynnyddodd ei poblogrwydd, ac erbyn hâf 2006 roedd gwahoddiadau iddynt i  berfformio yma ac acw yn ymestyn ymhell ir flwyddyn newydd. Yna, heb rybudd o gwbwl, ac yn hollol annisgwyl, daeth ar wybod ir teulu fod Arthur yn dioddef o 'leukemia'. Anfonwyd ef i'r ysbyty, ond yn anffodus ni fu'r  driniaeth yn llwyddiannus, a bu farw Arthur yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ar 3 Medi 2006.

"Roedd marwolaeth fy nhâd yn sioc ac yn ddifrod mawr i bawb oedd yn ei adnabod," dywedodd Sioned, ac aeth ymlaen i ddweud "mor annisgwyl ac fe wyddai mam a minnau na fuasai bywyd byth run fath eto." 

Ond drwy yr anhawsterau ar tristwch hyn i gyd, roedd y fam ar ferch yn benderfynol y buasai cerddoriaeth Môn- Heli yn parhau. "Dyna a fuasai fy nhâd wedi ei ddymuno yn fwy na dim," ychwanegodd Sioned.

Sioned, ei hun yn gantores brofiadol, a benderfynodd ar unwaith lenwi y bwlch a adawodd ei thâd. "Roedd ffurfio deuawd gyda mam y peth mwyaf naturiol i mi ei wneud," meddai Sioned, "ac hawdd iawn oedd i mi wneud y penderfyniad."

Ar 7 Ebrill 2007 yn y Llêw Côch,  Tyn Y Groes, Dyffryn Conwy, fe berfformiodd y Môn- Heli newydd am y tro cyntaf.

Edrych yn ôl ar y noson honno, dywedodd Karen, "Noson ysmudiadol iawn, nid yn unig i Sioned a mi ond hefyd ir teulu, ffrindiau  ac i'n dilynwyr oll, ond roedd y croeso, yr anogaeth ar gefnogaeth a gawsom,  yn sicir wedi bod yn angenrheidiol i ni allu gwynebu perfformio am y tro cyntaf heb Arthur."

Ers hynny, mae y fam ar ferch wedi perfformio nifer o weithiau, pob perfformiad yn denu canmoliaeth gwresog. "Rydym yn cael croeso a chefnogaeth ble bynnag yr awn, " medde Sioned, "ac yr ydym ein dwy yn hynod o ddiolchgar i bawb sydd yn rhoi y gefnogaeth yma i ni."

Gan fod Karen a Sioned yn gweithio llawn amser, mae ei bywydau personol prysur yn cyfyngu y nifer o berfformiadau y maent yn gallu ei cyflawni, ond er hyn, mae'r ddwy yn benderfynol y bydd Môn-Heli  yn perfformio ar ei gorau pob amser.

Wrth edrych yn ôl ar ddigwyddiadau'r deunaw mis diwethaf, dywedodd Karen, "Maen't wedi bod yn fisoedd anodd iawn. Mae fy mywyd wedi newid cymaint mewn amser mor fyr ac rwyf yn dal i geisio dygymod ar holl sydd wedi digwydd. Dwi yn ceisio cadw mor brysur ac sydd yn bosib, a credaf fod gofynion fy ngwaith pob dydd o lês mawr i mi, maent yn fy rhwystro rhag hel meddyliau am y gorffennol."

Yn ddiweddar daeth y newyddion da fod Sioned wedi dyweddio a Trystan, swyddog gyda Heddlu Gogledd Cymru, achlysur a dderbyniwyd a chroeso a llawenydd brwd gan y teulu ffrindiau a dilynwyr y ddeuawd. "Bydd y briodas rhywbryd yn ystod 2008," ebe Karen, gan ychwanegu " mae yn edrych yn debyg fod yr haul wedi dod allan or cwmwl i ni unwaith eto."

I gloi, dywedodd Karen "Mae gan pob un ohonom ein côf am Arthur, a tra yr ydym yn cofio rhywun maent yn fythol fyw yn ein calonnau. Fy ngobeithion yw y bydd hefyd yn fythol fyw drwy ei gerddoriaeth, a dyna pam mae hi mor bwysig i Sioned ac i mi y bydd Môn-Heli yn perfformio ymhell ir dyfodol."

Dymunwn pob llwyddiant iddynt, maent yn ei haeddu.
 
 

D. T. 2007

 

Prif Dudalen